P-04-397  Cyflog Byw

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at ei haddewid i weithio tuag at gyflog byw i bob gweithiwr yng Nghymru a dweud wrthym pryd a sut y bydd yn gwneud i hyn ddigwydd.

Waeth pa mor galed y maent yn ymdrechu, nid yw’r isafswm cyflog yn ddigon i rai rhieni gael deupen llinyn ynghyd a rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd i blant fel ni. Mae’r cyflog byw yn golygu y byddai rhieni sy’n gweithio yn ennill o leiaf £7.20 yr awr.

Rydym yn ymgyrchwyr ifanc sy’n gweithio gydag Achub y Plant ledled y DU o blaid newid. Rydym yn ymgyrchu dros gyflog byw, ac yn cynrychioli barn pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Achub y Plant

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  19 Mehefin 2012

Nifer y llofnodion:  483